Fel menter iaith o fewn Menter Môn, mae gan y sefydliad hanes hir o gefnogi dysgwyr ar yr ynys.

Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi bod yn cefnogi nifer o grwpiau a sefydliadau newydd sy’n cynnig sesiynau paned a sgwrs mewn lleoliadau ar draws yr ynys, gan gynnwys:

  • Caergybi
  • Llangoed
  • Pont Rhyd y Bont
  • Moelfre
  • Rhosneigr
  • Llangefni
  • Gwalchmai
  • Brynsiencyn

Mae’r sesiynau yn gyfle i unigolion ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg y tu allan i ddysgu ffurfiol a thu hwnt i’r dosbarthiadau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Y nod yw darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i’r grwpiau fel y gall pobl fentro a defnyddio’r iaith heb boeni am wneud camgymeriadau.

Rhan bwysig o’r sesiynau yw cyfraniad siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n gwirfoddoli eu hamser i fynychu ac ymuno yn y sgyrsiau hyn. Mae dysgwyr yn ddiolchgar iawn iddynt ac yn gweld gwerth mewn clywed y Gymraeg mewn sgwrs naturiol.

Mae croeso i bawb ymuno â’r sesiynau, yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal sesiwn gysylltu â Huw yma yn Menter Môn ar huw@mentermon.com, a bydd yn gallu cynnig cymorth a chefnogaeth


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233