Yn ddiweddar, bu Menter Môn yn rhan o Cyflawni Gyda’n Gilydd, digwyddiad wedi’i drefnu gan Rolls-Royce SMR a Great British Energy – Nuclear ar gamwps Llangefni Grŵp Llandrillo Menai. Roedd yn gyfle i fusnesau, partneriaid a rhanddeiliaid ddod ynghyd i drafod cyfleoedd yn ymwneud â phrosiect Gwyndod ar Ynys Môn.
Roedd ein tîm Hwb Menter yn rhan o’r digwyddiad, gyda’r pwyslais ar gefnogi busnesau i baratoi ar gyfer y cyfleoedd a all ddod drwy Gwyndod a sicrhau bod y gadwyn gyflenwi leol mewn sefyllfa gref i fanteisio arnynt.
Cymerodd ein Cyfarwyddwr Portffolio Economi, Bethan Fraser-Williams, ran mewn trafodaethau panel yn ystod y dydd gan gyfrannu at sgyrsiau ar gyllid, sgiliau a chefnogi busnesau. Rhannodd brofiad ac arbenigedd Menter Môn o weithio i greu budd lleol a gwerth cymdeithasol o ddatblygiadau mawr fel hyn.
Roedd y digwyddiad yn gyfle pwysig hefyd i greu cysylltiadau newydd, cryfhau partneriaethau a thrafod sut y gall busnesau a chymunedau lleol elwa o’r cyfleoedd ddaw yn sgil Gwyndod a gwaith cysylltiedig.
Wrth i Gwyndod ddatblygu, bydd Menter Môn yn parhau i weithio gyda busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid i gefnogi’r gadwyn gyflenwi yn lleol a sicrhau bod y budd economaidd a chymdeithasol yn aros yma ar Ynys Môn ac ar hyd a lled y gogledd.