Cafodd tîm prosiect Cylch Peiriannau Gogledd Cymru sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, ychydig ddyddiau gwerthfawr yn yr Alban yn ddiweddar, yn creu cysylltiadau gyda Ringlink Scotland. Pwrpas y daith oedd edrych ar y cyfleoedd i gydweithio, gan adeiladu ar y gwerthoedd ac uchelgeisiau sy’n gyffredin rhwng y ddau sefydliad, a dysgu o’r heriau tebyg maen nhw’n eu hwynebu.
Fel rhan o’r ymweliad, roedd cyfle i ymweld â Charleton Farm Shop & Pick Your Own a Grampian Growers Cooperative. Roedd yr ymweliadau’n rhoi cipolwg ymarferol ar y gwahanol ffyrdd o gydweithio, datblygu busnesau, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a manteision gweithio fel coop.
Roedd yr ymweliad yn pwysleisio cymaint sydd i’w ennill drwy ddysgu o fodelau llwyddiannus mewn mannau eraill. Y cam nesaf yw ystyried sut i addasu’r sydd wedi ei ddysgu i gefnogi ffermwyr, tyfwyr, cymunedau a busnesau yma yng Nghymru.