Roedd gwisgoedd o ffilm Gymraeg newydd ar gael mewn sêl ddillad vintage wedi ei drefnu gan gynllun Cylchol Menter Môn i godi arian at Hosbis Dewi Sant yn ddiweddar.
Roedd y sêl cilo a gynhaliwyd yn Llangefni ddiwedd Hydref yn gyfle i brynu dillad o’r 1980au a’r 1990au gan gynnwys gwisgoedd wedi eu cyfrannu gan dîm cynhyrchu Pijin, sef ffilm newydd sy’n seiliedig ar nofel boblogaidd Alys Conran, Pigeon.
Mae Pijin, sydd wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i chynhyrchu gan Triongl ar gyfer S4C, wedi’i lleoli ym Methesda yn ystod haf 1992. Mae’r stori’n dilyn ffrindiau ifanc a’u hanturiaethau yng nghanol ardal llechi gogledd Cymru.
Roedd cyfnod y ffilm yn cyd-fynd â llawer o’r dillad oedd ar werth, gan roi cyfle i bobl ddod o hyd i fargen ymysg y darnau unigryw, tra’n cefnogi elusen leol.
Cododd y digwyddiad £260 tuag at Hosbis Dewi Sant. Mae’n elusen sy’n darparu gofal a chymorth yn y gogledd orllewin i bobl sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i’w teuluoedd.
Mae cynlluniau ar y gweill i gynnal sêl dillad arall ym Mhrifysgol Bangor fis nesaf, gan roi cyfle arall i bobl ddod o hyd i ddillad vintage a chodi arian at yr hosbis.