Bydd Neuadd y Dref, Llangefni yn dod yn ganolbwynt creadigrwydd ddydd Sadwrn 24 Ionawr 2026 wrth i Ddiwrnod Papurau Bro 2026 ddod â chymunedau Môn at ei gilydd i ddathlu straeon lleol, gwefannau bro a phapurau bro’r ynys.
Mae’r diwrnod, sy’n cynnwys sesiynau hwyliog i bob oedran, yn cynnig cyfleoedd arbennig i blant, pobl ifanc ac oedolion ddysgu sgiliau newydd, rhannu syniadau ac ysbrydoli’i gilydd i gyfrannu at fywyd newyddiadurol yr ynys.
🌞 Rhaglen y Bore: Creu a Chyfrannu (10:00–12:00)
Mae’r bore wedi’i deilwra ar gyfer plant cynradd, gyda dau brif sesiwn:
- Parti Plant y Fro (Dan 7 oed)
Sesiynau stori a chân, stondin Llyfrgelloedd Môn, cornel celf, swyddfa newyddiaduraeth fach a llun-a-stori — gyda phaned i rieni!
- Storïwyr Ifanc (8–11 oed)
Sesiwn arbennig gyda’r cartŵnydd ac awdur Siôn Tomos Owen, yn ogystal ag gweithdy sgiliau newyddiaduraeth hwyliog gyda thîm Bro360.
🌟 Prynhawn: Sgiliau Gohobu i Bobl Ifanc (1:00–3:00)
I bobl ifanc 15–18 oed, cynhelir Hyfforddiant Gohebu gan dîm Bro360.
Mae’n gyfle i:
- ddatblygu sgiliau newyddiadurol sylfaenol,
- gyfrannu at wefannau bro fel Môn360 neu at bapurau bro lleol,
- ennill tystysgrif sy’n cyfrannu tuag at Her y Gymuned yn y Tystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol.
Mae’r hyfforddiant hefyd yn cynnwys pecyn adnoddau AM DDIM i gefnogi cyfranwyr newydd.
🎤 Panel Holi Agored i Bawb (3:00–4:00)
Bydd y newyddiadurwr profiadol Aled Hughes (BBC) yn cadeirio panel o arbenigwyr ac ymddiddorwyr gan gynnwys:
- Carwyn Jones – Uwch Ohebydd Newyddiadurol
- Begw Elain – Myfyrwraig Newyddiaduraeth ac Is-Gadeirydd Cyngor Ieuenctid FAW
- Gwilym Jones – Cadeirydd Y Rhwyd
- Teleri Haf Hughes – Golygydd Yr Arwydd
Mae croeso i unrhyw un sy’n frwd dros eu hardal neu sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ddyfodol straeon lleol i ymuno â’r drafodaeth.
📌 Cofrestru
Mae tocynnau ar gael am ddim drwy:
👉 https://www.ticketsource.co.uk/mentermon
Rydym yn falch iawn o ariannu’r diwrnod hwn drwy ein cynllun Balchder Bro sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU.