Cynhaliwyd digwyddiad Rhwydweithio Morol a Physgodfeydd cyntaf Menter Môn yn ddiweddar, gan ddod â chynrychiolwyr o bob rhan o’r sector yng ngogledd Cymru at ei gilydd.
Roedd y digwyddiad gyfle i’r rhai a fynychodd greu cysylltiadau newydd, rhannu profiadau, a thrafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant. Daeth yn amlwg o’r trafodaethau bod cydweithio a rhannu gwybodaeth yn hanfodol er mwyn datblygu a chefnogi sector sy’n gynaliadwy i’r hir dymor yn y rhanbarth.
Bydd digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal yn y dyfodol. Mae’r tîm sy’n gyfrifol am y prosiect yn diolch i bawb a ddaeth i gyfrannu at y trafodaethau. Dyma ddechrau’r gwaith, a bydd y prosiect yn adeiladu ar y sgyrsiau sydd eisoes wedi digwydd ac yn parhau i gefnogi cydweithio ar draws y cymunedau morol a physgodfeydd.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu drwy Llywodraeth Cymru.