Mae Menter Môn a chwmni perfformio Kariad wedi dod â hud a lledrith i gymunedau ynys Môn dros gyfnod y Nadolig, gan greu profiadau arbennig sy’n pontio’r cenedlaethau. Cafodd sioeau a gweithdai creadigol eu cynnal gan gynnwys sioe hud gan Karen o Kariad yng Nghartref Y Rhos (Malltraeth), Plas Crigyll (Bryngwran) ac Hafan Cefni (Llangefni), gan uno preswylwyr cartrefi â phlant o ysgolion lleol i gael sgyrsiau mewn awyrgylch llawn hwyl a chreadigrwydd.
Roedd y sesiynau’n cynnig cyfle i gael profiad o hud, gan hybu hunanhyder y plant a’r preswylwyr mewn ffordd ddeinamig, sensitif ac ysbrydoledig. Roedd y profiad yn gwneud i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol.
Yn goron ar y cwbl, roedd sgyrsiau hwyliog rhwng y cenedlaethau ar ddiwedd y sesiynau, a’r plant yn rhannu caneuon o’u sioeau Nadolig.
Dywedodd Aaron Morris, Swyddog Prosiect ym Menter Môn:
“Roedden ni’n gweld gwerth mewn trefnu digwyddiadau fel hyn dros y ‘Dolig. Roedd yn braf gweld y plant a phreswylwyr y cartrefi yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn mwynhau.”
Menter Môn a drefnodd y sesiynau gwerthfawr yma. Kariad oedd yn gyfrifol am greu sioe ac amgylchedd arbennig er mwyn pontio’r cenedlaethau. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft gwych o sut y gall celf a pherfformio gryfhau cysylltiadau cymunedol a dod â phobl at ei gilydd.
Dywedodd Karen, o Kariad:
“Profiad gwerthfawr oedd cael creu sioe hud a lledrith a ddaeth â’r cenedlaethau ynghyd. Trwy’r hwyl a’r hud, dysgodd pawb fod bod yn garedig, rhoi amser i’w gilydd a bod yn ffrindiau da yr un mor werthfawr â derbyn anrhegion.
“Cafodd y genhedlaeth hŷn ail-fyw hud y Nadolig trwy lygaid y plant, tra cafodd y plant fwynhau cwmni chwareus a chynnes y genhedlaeth honno. Roedd pawb yn gadael gyda gwên a hwb i’w hyder.
“Diolch i Menter Môn am gefnogi’r sesiynau gwirioneddol arbennig yma. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai’r holl unigolion yma wedi cael profi rhannu hud y Nadolig efo’i gilydd.”
Mae gweld cymunedau yn llwyddo wrth wraidd holl gynlluniau Menter Môn. Maent yn ceisio bod o gymorth er mwyn creu a chefnogi cymunedau i fod yn llewyrchus a llwyddiannus, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Kariad
Mae Kariad yn gwmni perfformio creadigol sy’n arbenigo mewn sioeau hud a gweithdai rhyngweithiol i blant ac oedolion. Gyda dros 40 mlynedd o brofiad, mae Kariad yn defnyddio celf a pherfformio i hybu hunanhyder, sgiliau cyfathrebu a llesiant emosiynol mewn ffordd hwyliog a sensitif. Mae eu sesiynau’n cynnig profiadau unigryw sy’n meithrin creadigrwydd, cysylltiadau cymunedol ac yn dangos sut y gall hud a pherfformio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.