Rydym yn falch o groesawu tri aelod bwrdd newydd i ymuno â’r naw aelod Bwrdd presennol o Gyfarwyddwyr Anweithredol.

Daw’r penodiadau newydd â chyfoeth o brofiad ym meysydd datblygu economaidd, technoleg, arweinyddiaeth strategol a gwirfoddoli cymunedol, gan atgyfnerthu’r weledigaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy ac uchelgeisiol i Fôn, Gwynedd a thu hwnt.

Yr aelodau newydd yw Nia Medi Williams, Geraint Strello a Siân Hughes. Bydd y tri’n dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd o wahanol sectorau i’r bwrdd, gan gyfrannu’n bositif at weledigaeth Menter Môn, sef datgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau i sicrhau dyfodol ein cymunedau. Dyma gyfle i ddod i adnabod yr aelodau newydd yn well.

 

 

 

 

 

 

Nia Medi Williams

Mae Nia Medi Williams yn dod â phrofiad sylweddol ym maes datblygu economaidd a rheolaeth strategol. Mae’n gweithio fel Rheolwr Gweithrediadau ac Adnoddau i Uchelgais Gogledd Cymru, ac yn flaenorol bu’n gweithio i Gyngor Gwynedd yn yr adran Economi a Chymuned a Chefnogaeth Gorfforaethol.

Y tu hwnt i’w gwaith proffesiynol, mae Nia wedi chwarae rhan flaenllaw yn y Gymdeithas Amaethyddol am flynyddoedd. Mae hefyd yn weithgar yn ei chymuned drwy waith pwyllgorau lleol ac elusennol.

Dywedodd Nia Medi Williams:

“Fel un sydd wedi fy ngeni a magu ar yr ynys ac wedi gweld y gwahaniaeth positif mae Menter Môn wedi wneud i’r ynys dros y blynyddoedd, mae’n bleser cael fy mhenodi yn aelod o Fwrdd Menter Môn. 

“Dwi’n edrych ymlaen i gyfrannu tuag at weledigaeth Menter Môn yn lleol ar gyfer datblygu ein pobl a’n cymunedau. Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau gyda datblygiadau mawr i Fôn, ac mae gan Menter Môn ran allweddol  i gyfrannu.”

Geraint Strello

 Mae Geraint Strello wedi gweithio mewn swyddi amrywiol o fewn BT am bron i bedwardeg o flynyddoedd. Mae ei brofiad yn cynnwys gwirfoddoli gyda Chymdeithas Cwn Chwilio ac Achub Cymru (SARDA Wales), Beiciau Gwaed Cymru, yn Warden gwirfoddol gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae hefyd wedi gwirfoddoli gyda ein prosiect, Afonydd Menai. Mae’r profiadau gwirfoddol ac amrywiol a’i brofiad uniongyrchol gyda gwarchod y llygoden ddŵr, un o brosiectau amgylcheddol y cwmni, yn golygu ei fod yn benodiad gwych ar gyfer ein bwrdd.

Dywedodd Geraint Strello:  

“Ar ôl cydweithio ar lawer o brosiectau dros y blynyddoedd, dwi nawr yn edrych ymlaen at allu rhoi mewnbwn a chefnogi prosiectau newydd a chyffrous yn ein hardaloedd.”

Siân Hughes

Mae gan Siân Hughes dros ugain mlynedd o brofiad rhyngwladol mewn arweinyddiaeth, cysylltiadau cyhoeddus ac mae ganddi brofiad sylweddol o weithio ym meysydd gweithgynhyrchu,  adeiladu, busnesau symudedd a thechnoleg ariannol.  

Mae Siân Hughes wedi bod mewn swyddi uwch arweinyddol ac yn rhan o fyrddau gweithredol mewn cymdeithasau masnach, ymgynghoriaeth ryngwladol a chwmnïau byd-eang. Mae hi hefyd yn ieithydd gan siarad Ffrangeg, Eidaleg a Sbaeneg yn ogystal â Chymraeg.

Dywedodd Siân Hughes:  

“Wedi fy ngeni a’m magu yn Llangefni, Ynys Môn, ac wedi graddio o’r hyn sydd bellach yn Brifysgol Caerdydd, rwyf bellach yn byw ym Mrwsel, Gwlad Belg. Dechreuais fy ngyrfa ryngwladol fwy na dau ddegawd yn ôl yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru, lle cefnogais sefydliadau Cymru i gael mynediad at gyllid Ewropeaidd, ac ers hynny rwyf wedi adeiladu gyrfa ryngwladol ym maes busnes.

“Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o Fwrdd Menter Môn ac yn edrych ymlaen at ddod â’r profiad hwnnw yn ôl i Ynys Môn, gan gyfrannu at waith cwmni sy’n gwneud cyfraniad mor bwysig i’r gymuned lle cefais fy magu.”

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:

“Rydym yn falch iawn o groesawu tri aelod newydd i’r Bwrdd. Mae eu profiad amrywiol, eu hymrwymiad i’n cymunedau a’u dealltwriaeth fanwl o’r heriau a’r cyfleoedd lleol yn ychwanegu cryfder sylweddol i’n gwaith.

“Bydd eu mewnwelediad a’u harbenigedd yn chwarae rôl ganolog wrth lywio ein huchelgeisiau strategol i gefnogi datblygiad economaidd, gwella gwasanaethau a grymuso cymunedau ar draws Ynys Môn a Gwynedd.”

Mae Menter Môn yn hyderus y bydd y penodiadau allweddol hyn yn gwella ymhellach allu’r sefydliad i gefnogi a grymuso cymunedau, datblygu’r economi a datblygu ynni gwyrdd.

I ddysgu mwy am Fwrdd Menter Môn, ewch i: Menter Môn – Amdanom ni

Nid ydym yn chwilio am aelodau bwrdd newydd ar hyn o bryd, ond os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn cyfleoedd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â: ymholiadau@mentermon.com  


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233