Mae mis Rhagfyr yn fis llawn gweithgareddau cymunedol. Gwych oedd gallu cyfrannu at drefnu a chefnogi llawer o gymunedau i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd yn ystod mis Rhagfyr eleni. 

Yn ystod y mis, roedd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i deuluoedd a chymunedau a gafodd gefnogaeth gan ein cynllun Balchder Bro, gan gynnwys: 

  • Gweithdy crefftau Nadoligaidd yn Llannerch-y-Medd, cyfle i greu addurniadau traddodiadol a rhannu syniadau creadigol. 
  • Groto Sion Corn Cymraeg yng Nghaergybi a Llangefni 
  • Ffair Nadolig a Groto Sion Corn yng Nghanolfan Hen Ysgol Bodorgan 
  • Goleuadau Nadolig Llangefni, dathliad hudolus gyda cherddoriaeth fyw, stondinau lleol a Siôn Corn yn croesawu plant.  

Roedd y digwyddiadau hyn, a nifer o rai eraill, yn gyfle i bobl ddod ynghyd a chreu atgofion Nadoligaidd mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar.  

Bwriad Balchder Bro ydi dod â chymunedau ar draws Ynys Môn ynghyd gan greu cyfleoedd i bobl gymdeithasu a chymysgu mewn naws Nadoligaidd. Cawsom gyfle i wneud hyn ym mis Rhagfyr gan atgoffa pawb o bwysigrwydd cymunedau arbennig ac unigryw. Roedden ni hefyd yn falch bod y digwyddiadau yma yn rhoi cyfle i drigolion lleol ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned.  

Mae’r gweithgareddau hyn yn rhan o’n gweledigaeth ehangach ym Menter Môn sef datgloi potensial ein pobl gan gynnwys ein cymunedau a sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu. 

Dywedodd Huw Jones, Rheolwr Cynlluniau Cymunedol Môn, yma ym Menter Môn: 

“Ein nod ydi ysgogi trafodaeth am yr hyn sy’n gwneud pobl yn falch o’u cymuned a galluogi syniadau i ddod yn fyw, ac wrth gwrs rhannu ysbryd y Nadolig!”  

Gwybodaeth pellach am Balchder Bro: 

Mae Balchder Bro, dan arweiniad Menter Môn ac wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn rhaglen sy’n grymuso cymunedau i wireddu syniadau sy’n hybu balchder lleol. Gall hyn fod yn ddigwyddiadau, prosiectau celf, gardd gymunedol neu weithgareddau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth Ynys Môn. Mae’r cynllun yn cynnig cefnogaeth ariannol ac ymarferol i grwpiau, gan roi hyder i bobl wireddu eu syniadau. 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233