Mae Cymru’n falch o nodi dechrau Wythnos Rhyng-genhedlaeth Byd-eang 2026, gydag ystod eang o weithgareddau’n digwydd ar draws cymunedau Ynys Môn yn ogystal â Cymru gyfan. Ymlaen rhwng 24 i 30 Ebrill, mae’r wythnos yn dathlu cysylltiadau ystyrlon rhwng cenedlaethau ac yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae’r perthnasoedd hyn yn ei chael ar lesiant, cymunedau a chymdeithas.
Eleni, mae Menter Môn yn falch o weithredu fel Arweinydd Gwlad i Gymru, gan gydlynu gweithgareddau a rhannu arfer da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel rhan o’r mudiad byd-eang.
Drwy gydol yr wythnos, bydd plant, pobl hŷn, ysgolion, cartrefi gofal a sefydliadau cymunedol, yn ogystal ag awdurdodau lleol, yn dod ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gynlluniwyd i gryfhau perthnasoedd rhyng-genhedlaeth. Ar Ynys Môn, mae sawl ysgol leol yn ymweld â lleoliadau preswyl i rannu cerddoriaeth, sgwrs a chwmni.
Bydd disgyblion o Ysgol y Graig yn ymweld â phreswylwyr yn Hafan Cefni, lle byddant yn perfformio caneuon ac yn treulio amser gyda’i gilydd, gan ddefnyddio cerddoriaeth i gysylltu ar draws cenedlaethau. Bydd plant o Ysgol Bryngwran yn ymweld â Phlas Crigyll, tra bod disgyblion o Ysgol Henblas yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda thrigolion Cartref Preswyl Rhos. Mae’r ymweliadau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer profiadau a rennir, cyfeillgarwch a dysgu, gan fod o fudd i bobl ifanc a thrigolion hŷn.
Yn ogystal â gweithgareddau lleol, bydd Cymru yn cynnal gweminar cenedlaethol ar arfer da yn cysylltu’r cenedlaethau, gan arddangos gwaith da o bob cwr o’r wlad. Bydd y weminar yn cynnwys cyfraniadau gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ynghyd â Karen o gwmni Kariad, ac ymarferwyr a sefydliadau eraill sy’n gweithio i ddatblygu cysylltiadau cryfach rhwng cenedlaethau. Bydd y sesiwn yn darparu llwyfan ar gyfer rhannu, dathlu llwyddiant, ac archwilio sut y gall dulliau pontio’r cenedlaethau gefnogi cymunedau iachach gan greu cysylltiad.
Fel rhan o Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang, bydd Menter Môn hefyd yn cyhoeddi bwletin arbennig Ein Hanes Ni, gan ganolbwyntio ar Amlwch. Mae’r bwletin yn tynnu sylw at ardal leol benodol ac yn archwilio’r hyn sy’n dod â chenedlaethau ynghyd o fewn y gymuned honno, gan fyfyrio ar hanes, lle a pherthnasoedd sy’n cael eu rhannu. Y nod yw cofnodi straeon sy’n dangos sut mae cysylltiadau rhyng-genhedlaeth yn cael eu llunio gan ddiwylliant lleol a bywyd cymunedol.
Dywedodd Aaron Morris, Swyddog Prosiect ym Menter Môn:
“Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau Byd-eang yn ymwneud â chreu mannau ystyrlon lle gall pobl o bob oed ddod at ei gilydd, dysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu cysylltiadau,”
“Mae gweithgareddau Pontio’r Cenedlaethau yn gallu lleihau unigrwydd, gwella lles a meithrin gwell dealltwriaeth a pharch rhwng cenedlaethau, ac rydym yn hynod falch o weld cymaint o gymunedau lleol yn cymryd rhan yma yng Nghymru.”
Mae Wythnos Pontio’r Cenedlaethau yn cael ei dathlu mewn gwledydd ledled y byd, gan hyrwyddo’r neges bod cymunedau’n gryfach pan fydd cenedlaethau wedi’u cysylltu. Gyda ysgolion, cartrefi gofal, sefydliadau cymunedol, a chyrff cenedlaethol yn cymryd rhan, mae Cymru unwaith eto’n dangos ei hymrwymiad i adeiladu cymunedau cynhwysol sy’n gyfeillgar i oedran.
Bydd mwy o weithgareddau’n digwydd drwy gydol yr wythnos, mae partneriaid fel Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Heneiddio’n Dda yn Wrecsam, a Chyngor Caerdydd yn cymryd rhan gyda’r rhaglen yn parhau i dyfu wrth i sefydliadau a chymunedau ymuno â’r dathliad. Gellir dod o hyd i fanylion llawn ar bosteri’r digwyddiad a thrwy sefydliadau sy’n cymryd rhan.
Gallwch ymuno â’r weminar ddydd Llun yma