Bydd Menter Môn yn helpu i bweru eisteddfod yr Urdd eleni ar Ynys Môn gan ddefnyddio hydrogen gwyrdd, a fydd yn defnyddio ynni glân, tawel yn un o wyliau diwylliannol ieuenctid mwyaf Ewrop.

Gan fod eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar Ynys Môn eleni, sydd hefyd yn cael ei galw yn Ynys Ynni, mae defnyddio hydrogen gwyrdd yn cyd-fynd yn gryf ag enw da’r ynys am arloesedd ynni adnewyddadwy ac arweinyddiaeth mewn atebion carbon isel.

Mae’r arddangosiad pŵer hydrogen hefyd yn cyd-fynd â phortffolio ynni gwyrdd Menter Môn wrth iddynt weithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau.

Gwahoddiad i’r cyhoedd archwilio technoleg hydrogen yn yr Eisteddfod

Bydd cyfle i ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd i gael dysgu mwy am dechnoleg hydrogen yn y Gwyddonle drwy stondin Morlais, yn ogystal â thrwy deithiau tywys o amgylch yr Unedau Pŵer Hydrogen ar y safle. Bydd cyfle hefyd i aelodau’r cyhoedd flasu’r dŵr puraf yn y byd sef yr unig gynnyrch ychwanegol a ddaw drwy gynhyrchu trydan gan ddefnyddio hydrogen.

Mae’r Menter Môn yn falch iawn o gaelcefnogaeth a chydweithio gan Uchelgais Gogledd Cymru, gan gydnabod cyfraniad y prosiect at ddatgarboneiddio rhanbarthol, arloesedd a datblygiad economaidd.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:

“Mantais hydrogen gwyrdd yw ei fod yn caniatáu inni ddatgarboneiddio gweithgareddau sydd fel arall yn anodd eu mynd i’r afael â nhw. Yn draddodiadol, mae gwyliau mawr wedi dibynnu ar generaduron diesel oherwydd nad oes llawer o ddewisiadau amgen ar gael. Trwy ddefnyddio Unedau Pŵer Hydrogen, gallwn ddarparu pŵer glân, tawel a lleihau ôl troed carbon digwyddiadau yn sylweddol.

“Mae’r arddangosiad hwn hefyd yn adlewyrchu ein huchelgais ehangach trwy Hwb Hydrogen Caergybi, yr ydym yn ei ddatblygu gydag EDF Hynamics. Trwy gynhyrchu hydrogen gwyrdd gan ddefnyddio trydan adnewyddadwy o’n prosiect ynni llanw Morlais, ein nod yw, nid yn unig  cefnogi’r newid i ynni glanach, ond hefyd i greu swyddi o ansawdd, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a chadw mwy o werth yma ar Ynys Môn trwy berchnogaeth leol.”

Dywedodd Meghan Davies, Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net yn Ambition North Wales:

“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi defnyddio hydrogen fel ffynhonnell tanwydd glân yn eisteddfod yr Urdd eleni. Mae Gogledd Cymru ar flaen y gad yn y sector ynni glân, felly mae’n gyffrous iawn. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi defnyddio hydrogen fel ffynhonnell tanwydd glân yn Eisteddfod yr Urdd eleni er mwyn gallu arddangos defnyddio pŵer hydrogen gwyrdd i bobl ifanc, eu teuluoedd ac ymwelwyr eraill â’r ŵyl.”

Bydd pŵer yn eisteddfod yr Urdd yn cael ei gyflenwi gan Unedau Pŵer Hydrogen a ddarperir gan GeoPura, cwmni sydd wedi cyflenwi pŵer hydrogen yn ddiweddar ar gyfer prosiectau proffil uchel gan gynnwys ffilmio ffilm Downton Abbey.

Ar gyfer digwyddiadau mawr, mae unedau pŵer hydrogen yn cynnig manteision clir. Maent yn gwella ansawdd yr aer, yn disodli generaduron diesel, gan leihau allyriadau carbon yn sylweddol, ac yn gweithredu’n dawel, gan osgoi’r llygredd sŵn sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynhyrchu pŵer dros dro, budd pwysig i wyliau diwylliannol a theuluol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233