Un agwedd ar y prosiect yw cymryd rhan yn yr arolygon safle allweddol llygoden ddŵr, a gynhelir yng ngwarchodfa natur Cors Ddyga ddwywaith y flwyddyn. Dyma fideo byr yn rhoi manylion y diwrnod, gyda rhai o’n gwirfoddolwyr rheolaidd yn rhannu eu profiadau ar y prosiect a’r hyn maen nhw wedi’i ennill o fod yn rhan o’r prosiect hyd yn hyn.