Mae Cylch Peiriannau Gogledd Cymru yn cynnig ateb ymarferol i dyfwyr ffrwythau a llysiau, yn ogystal â ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio, drwy ddarparu mynediad at offer garddwriaeth ar adeg ei angen – heb y gost uchel o’i brynu’n uniongyrchol.
Bydd lansiad y Cylch Peiriannau ar 30 Mehefin rhwng 6pm ac 8pm, a disgwylir iddo ddenu ystod eang o ffermwyr, tyfwyr, cyflenwyr a chyrff allweddol o fewn y diwydiant. Nod y digwyddiad yw cyflwyno’r prosiect yn ffurfiol, gan amlygu manteision cydweithio a rhannu peiriannau ac adnoddau o fewn y sector.
Dyma gam pwysig tuag at wneud garddwriaeth yn fwy hygyrch ac effeithlon yn yr ardal, yn enwedig i fusnesau llai neu’r rhai sy’n newydd i’r sector.
Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael i arddangoswyr sydd am gymryd rhan yn y digwyddiad, ac mae trefnwyr yn annog pawb sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar. Mae mynediad hefyd ar agor i ymwelwyr sy’n dymuno dysgu mwy am y cynllun a chwrdd ag eraill yn y maes.
Mae modd cofrestru ar gyfer y digwyddiad trwy Eventbrite, ac mae’r trefnwyr yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at groesawu ystod eang o fynychwyr i’r lansiad.
Bydd y noson yn cynnig cyfle unigryw i unrhyw un sy’n ymwneud â garddwriaeth yng ngogledd Cymru i ddarganfod adnoddau newydd, adeiladu partneriaethau, a chael cipolwg ar ddyfodol mwy cydweithredol i’r sector.
Cadwch eich lle yma: North Wales Horticultural Machinery Ring Launch Event-stallholders ticket Tickets, Tuesday, June 30 • 6 PM – 8:30 PM | Eventbrite