Mae cynllun Llwyddo’n Lleol 2050, dan arweiniad Menter Môn, wedi cyhoeddi cyfle cyffrous i fusnesau a phobl ifanc yng Ngwynedd ac Ynys Môn fod yn rhan o’r Elfen Gyrfaol.
Mae’r elfen hon yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 18-35 oed ennill profiad gwaith gwerthfawr gyda chyflogwyr lleol, tra’n cefnogi busnesau i ddatblygu’r gweithlu a buddsoddi mewn talent leol.
Drwy’r cyfle, bydd busnesau yn gallu cynnig lleoliadau gwaith hyblyg i bobl ifanc, gyda chefnogaeth ariannol a chymorth ymarferol gan dîm Llwyddo’n Lleol. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan hefyd yn elwa o ystod o weithgareddau datblygu, gan gynnwys sesiynau sgiliau a chyfleoedd rhwydweithio, er mwyn sicrhau profiad cyflawn a gwerthfawr.
Yn ogystal â’r profiad gwaith ei hun, bydd cyfranogwyr yn cael mynediad at becyn ehangach o gefnogaeth, gan gynnwys gweithdai i ddatblygu sgiliau a hyder, a gweithgareddau cymdeithasol i greu cysylltiadau ac adeiladu rhwydwaith yn lleol.
Nod yr elfen newydd yw dangos bod modd i bobl ifanc adeiladu gyrfa lwyddiannus yn eu hardaloedd cynhenid, tra’n cefnogi busnesau i dyfu a ffynnu drwy gadw talent yn lleol.
Cyfranna’r elfen at flaenoriaethau partneriaid lleol i gryfhau cyfleoedd i bobl ifanc, codi ymwybyddiaeth o yrfaoedd lleol a chefnogi’r nod o gadw talent yn Ynys Môn a Gwynedd.
Dywedodd Betsan Siencyn, Rheolwr prosiect Llwyddo’n Lleol:
“Rydym yn falch iawn o lansio’r Elfen Gyrfaol, sy’n gam pwysig ymlaen wrth gefnogi pobl ifanc i sicrhau dyfodol iddynt eu hunain yn eu hardaloedd lleol.
“Mae’r cyfle yma yn fwy na lleoliad gwaith- mae’n ymwneud â datblygu hyder, sgiliau a chysylltiadau, tra’n rhoi’r gefnogaeth sydd ei angen ar fusnesau i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o weithwyr talentog.”
Cafodd y cyfle ei gyflwyno’n anffurfiol am y tro cyntaf yn ystod Eisteddfod yr Urdd, gyda gwybodaeth ar gael ar stondin Menter Môn a chyfle i glywed mwy drwy sgwrs banel.
Wrth lywio’r sgwrs, amlygodd Buddug Watcyn Roberts, Ymarferydd creadigol llawrydd:
“Roeddwn yn rhan o’r Elfen Gyrfaol rai blynyddoedd yn ôl, a chefais i gefnogaeth werthfawr iawn drwy’r profiad, o gysylltiadau â chyflogwyr lleol i arweiniad, datblygiad CV a chymorth ariannol. Roedd hynny’n allweddol wrth fy helpu i ddatblygu gyrfa lewyrchus yn fy milltir sgwâr.”
Rydym yn annog busnesau ac unigolion sydd â diddordeb i ddarganfod mwy drwy ddarllen y canllawiau, cysylltu â’r tîm i drafod ymhellach cyn cyflwyno eu cais erbyn y 6ed o Orffennaf.
Cefndir Llwyddo’n Lleol 2050
Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, gyda’r nod o gefnogi pobl ifanc i adeiladu bywyd, gyrfa a rhwydwaith cymdeithasol cryf yn eu cymunedau lleol.
Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, gyda’r nod o gefnogi pobl ifanc i adeiladu bywyd, gyrfa a rhwydwaith cymdeithasol cryf yn eu cymunedau lleol.
Gyda heriau fel allfudo pobl ifanc yn effeithio ar gymunedau Cymraeg, mae’r prosiect yn ceisio dangos bod modd cael dyfodol disglair a gyrfa lwyddiannus yn lleol.
Yng Ngwynedd, mae’r gwaith hwn yn cefnogi blaenoriaethau strategaeth Nôl i Wynedd Cyngor Gwynedd, ac ar Ynys Môn mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 2023 i 2028 a mentrau megis Dyfodol Môn, sy’n hyrwyddo cyfleoedd i bobl fyw, gweithio a datblygu gyrfa’n lleol.
Ariennir y cynllun gan y Gwasanaeth Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) a derbynnir cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd a Rhaglen ARFOR sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg, a thrwy hynny, cynnal yr iaith.