Rhaglen hyfforddiant busnes a chymorth ariannol i gefnogi busnesau sydd yn ymateb i heriau cymdeithasol.

 

Mae cynllun gan Menter Môn, Llwyddo’n Lleol 2050 am gynnig cefnogaeth unigryw i griw o bobl ifanc sydd ag awydd i ddatblygu eu syniad busnes eu hunain. Dyma gyfle i dderbyn hyfforddiant busnes dros gyfnod o ddeg wythnos yn ogystal â chefnogaeth ariannol fydd o gymorth wrth symud y syniadau busnes yn eu blaen.

 

Bydd y cynllun yn cefnogi syniadau busnes sydd yn ymateb i her gymunedol. Gall y gymuned hon fod yn un ddaearyddol, yn gymuned o bobl, neu yn fusnes sydd yn ceisio creu cymuned newydd. Dyma gyfle gwych i greu gwelliant cymunedol ac i gael bod yn rhan o brosiect sydd yn cefnogi pobl ifanc i lwyddo ym mro eu mebyd.

 

Mae ceisiadau nawr ar agor. Er mwyn ymgeisio bydd angen i’r bobl ifanc fod rhwng 18-30 oed a bydd gofyn iddyn nhw fod yn byw yn neu fod yn wreiddiol o Wynedd neu Fôn.

 

Cyllidir y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

 

Cysylltwch â Jade@mentermon.com am fwy o wybodaeth neu i dderbyn ffurflen gais er mwyn ymgeisio.