Mae pedair ysgol allan o bump ym Môn newydd dderbyn offer ffermio fertigol gan Tech Tyfu Twf – prosiect sy’n cael ei redeg gan Tech Tyfu, un o gynlluniau Menter Môn.

Bydd staff a disgyblion Ysgol Syr Thomas Jones, Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Bodedern yn ymuno ag Ysgol Uwchradd Caergybi i ddarganfod ffyrdd newydd o ddysgu, gan ddefnyddio technegau tyfu heb bridd – bydd hyn yn dylanwadu ar bynciau ar draws y cwricwlwm.

Wrth ddefnyddio’r citiau ffermio fertigol, bydd cysyniadau STEM yn dod yn fyw yn y dosbarth, gan ddarparu profiad ymarferol o dechnoleg amaethyddol, a’r cyfle i weithio ar brosiect trawsgwricwlaidd.

Bydd yr offer hefyd yn addysgu’r disgyblion er mwyn iddyn nhw allu gwireddu cynaliadwyedd wrth arloesi yn y dyfodol.

Proses o dyfu cnydau mewn trefniant fertigol, gan eu dyfrhau gyda thoddiant llawn maetholion o dan amodau amgylcheddol rheoledig ydi ffermio fertigol.

Dywedodd Sally Williams, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Llangefni: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o brosiect arloesol ffermio fertigol Tech Tyfu Twf fydd yn digwydd ar draws Ynys Môn.”

Yn benodol, rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu’r defnydd o’r dechnoleg arloesol yma fel rhan o’r cwricwlwm STEM ar gyfer blwyddyn 7.”

Wedi’i ariannu gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Ynys Môn, mae Tech Tyfu wedi darparu offer ac arbenigedd i gynorthwyo athrawon i ddatblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio ffermio fertigol i gyfoethogi’r Cwricwlwm newydd i Gymru gyda phwyslais ar addysg drawsgwricwlaidd yn seiliedig ar brosiectau.

Ychwanegodd Catherine Pearson, swyddog prosiect Tech Tyfu: “Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ysgolion hyn yn datblygu ac yn gobeithio y gallwn ni ehangu’r prosiect ledled Gogledd Cymru i roi cyfle i fwy o ddisgyblion dderbyn addysg trwy’r dechnoleg yma.

Gyda pholisi amaethyddol newidiol yn galw am arallgyfeirio, a’r profiadau diweddar o ran ansicrwydd bwyd, ni fu ffermio fertigol erioed yn bwysicach i Gymru. Mae’n dod â chynhyrchu yn llawer agosach at ddefnydd ac yn osgoi’r allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â mewnforio llysiau gwyrdd gwerth uchel.”

Dywedodd Louise Hughes, Pennaeth Gwyddoniaeth Ysgol Uwchradd Bodedern: “Ar ôl yr heriau diweddar mae’r disgyblion wedi eu hwynebu wrth orfod dysgu o gartref a’r effaith y cafodd hyn ar eu hiechyd meddwl, dwi’n teimlo y bydd buddion lles o dyfu a gofalu am rywbeth yn cael effaith gadarnhaol ar y disgyblion.

Fel cyn-ddisgybl yn Ynys Môn, dwi’n cofio teimlo bod yr holl ddiwydiannau’n cau ar yr ynys a’r pryder hwnnw wrth ystyried pa gyfleon gwaith oedd ar gael ar ôl gadael yr ysgol.

Dwi’n gobeithio y bydd gweithio ar y cyd gyda Tech Tyfu yn helpu’r disgyblion i ddychmygu ynys sy’n tyfu mewn diwydiant yn y dyfodol a’u bod nhw eisiau bod yn rhan o hynny.”

Cafodd Tech Tyfu ei lansio ar y dechrau fel cynllun peilot ym mis Mawrth 2020, gan ddarparu offer, cefnogaeth ymarferol ac addysgol i ddarpar dyfwyr sy’n anelu at gyflenwi cynnyrch a ffermir yn fertigol i ystod o farchnadoedd.

Ers hynny mae’r cynllun wedi lansio 3 prosiect wedi eu cynllunio i arddangos technoleg ffermio fertigol yng ngogledd Cymru.

Yn gynnar yn 2022, bydd Tech Tyfu yn dechrau adeiladu Hwb Arloesedd Tech Tyfu ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yng Ngaerwen, Ynys Môn. Bydd y staff yn cydweithredu gyda busnesau, ymchwilwyr ac unigolion i brofi technoleg newydd ac archwilio potensial ffermio fertigol yng Nghymru.

Mae hi’n bosib defnyddio’r dull o ffermio fertigol mewn amryw o ffyrdd ac mae gan y dull gymaint o rinweddau sy’n fuddiol i’r amgylchedd. Mae nifer o’r buddiannau hyn oherwydd ei fod yn defnyddio cymaint llai o ddŵr na dulliau amaethyddiaeth arferol.

Mae’r dechneg yn ei gwneud hi’n bosib i dyfu cnydau allan o dymor, ac oherwydd eu bod nhw’n cael eu ffermio’n fertigol mae’n bosib tyfu llawer o gnydau ar yr un pryd, heb orfod defnyddio chwynladdwyr neu blaladdwyr.