Mae menter gymdeithasol yng ngogledd Cymru wedi bod yn cefnogi cynhyrchwyr bwyd lleol i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd trwy bartneriaeth â busnesau twristiaeth ar draws y rhanbarth.

Trwy brosiect Neges@Home mae Menter Môn wedi gweithio gyda darparwyr llety hunan arlwyo i hyrwyddo cynnyrch bwyd a diod lleol gyda phwyslais ar y Gymraeg a diwylliant lleol. Y nod yw creu naws am le yn ogystal â hwyluso’r cysylltiad rhwng cynhyrchwyr a gwesteion.

Y syniad tu ôl i Neges yw annog ymwelwyr i archebu hamper o’u llety yn hytrach nag archebu bwyd o’r archfarchnad neu fynd i siopa cyn cyrraedd Cymru. Mae pedwar busnes bwyd yn rhan o’r cynllun ar hyn o bryd, gyda mwy yn bwriadu ymuno erbyn tymor prysur yr haf.

Dywedodd Dafydd Gruffydd Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae gwella profiad ymwelwyr trwy hybu busnesau lleol wrth wraidd y prosiect yma. Fel sefydliad rydym yn chwilio am ffyrdd o gyflwyno’r iaith i gynulleidfaoedd newydd trwy Menter Iaith Môn. Mae Neges@Home yn galluogi ni i wneud hyn, trwy becynnu clyfar, hyrwyddo’r hyn sy’n unigryw i’r ardal yma yn ogystal â gwella profiad ymwelwyr. Pa ffordd well o gyflwyno ardal a’i iaith i rai sydd ar wyliau yma, na thrwy fwyd lleol safonol.”

Ychwanegodd Gwion Llwyd, Cyfarwyddwr cwmni gwyliau Dioni Self Catering, un o’r darparwyr llety sy’n gysylltiedig â’r prosiect: “Rydym yn awyddus i roi profiad unigryw o’r ardal i’n gwesteion pan maen nhw’n aros efo ni. Mae’r cynllun yma yn golygu ein bod yn gallu gwneud hyn yn ogystal â sicrhau eu bod nhw’n gwario mwy yn lleol – felly, roedd cymryd rhan yn gwneud synnwyr busnes perffaith. Mae cynnydd wedi bod mewn darparwyr hunanarlwyo dros y blynyddoedd diwethaf, gyda hyn hefyd daw’r angen i wneud mwy i sefyll allan – mae defnyddio ein hiaith a’n diwylliant yn ffordd berffaith o wneud hyn.”

Dywedodd Bethan Jones sy’n berchennog ar un o gyflenwyr y prosiect, Bragdy Cybi: “Mae hon yn farchnad sylweddol sy’n tyfu yng ngogledd Cymru. Mae cael mynediad at gwsmeriaid newydd a darpar gwsmeriaid fel hyn i’w groesawu, ac yn sicrhau bod ymwelwyr yn cael gwir flas ar Gymru.”

Mae Neges wedi ei ariannu gan Gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio trwy WEFO a Llywodraeth Cymru.