Wedi symud ffwrdd o’u gartref ym Mlaenau Ffestiniog i astudio ym Mhrifysgol Bryste mae Rhodri yn adlewyrchu ar ei amser ffwrdd wrth iddo drafeilio yn nôl adra.

Nid oes rheilffordd yn rhedeg yn uniongyrchol o Gogledd i De Cymru. Mae hyn yn golygu bod rhaid dilyn ryw lŵp mawr o amgylch Cymru i fynd o Gaerdydd i Gaergybi, sy’n gallu cymryd hyd at 6 awr weithiau – ma’n cymryd llai na hanner hynny i fynd i Lundain, ac am bris gymharol. Blaenau Ffestiniog ydi lle ‘dwi’n alw’n adra, ond ‘dw i wedi bod yn byw ym Mryste tra’n astudio yn y brifysgol yno, felly ‘dwi’n rhy gyfarwydd gyda’r daith flinedig nol i’r gogledd. Rhaid i chdi ddechra’r daith gynnar oherwydd does ddim tren hwyrach na hanner awr wedi saith o’r gloch y nos yn mynd i Blaenau o Cyffordd Llandudno, sy’n fwy na 4 awr i ffwrdd o Bryste.

 Hongian o gwmpas yn Casnewydd am 3 awr oherwydd gohiriadau. Nes i ennill porsiwn o sglodion fel gwobr o’r bwyty bwyd cyflym poblogaidd ar ôl tynnu’r sticer oddi arno i ddadorchuddio’r newyddion da. Roedd gen i lond bol yn barod. Nôl ar y trên, Cwmbran, Henffordd, weithia’n mynd trwy Stroud a newid yn Birmingham.

Mae’r sefyllfa yn ei gwneud hi’n anodd i gadw cyswllt gyda teulu a chymuned, yn enwedig pan oedd y fflat o’n i’n ei rentio heb wê ddigon da i gynnal zoom call hanner deallol. Dw i hefyd yn gorfod sicrhau fod rhan fwyaf o’r bobl sy’n rhannu’r un fflat a fi, unai allan yn rhywle, neu yn cysgu er mwyn i mi allu gwylio Netflix! Yn wir, roedd yr awyrgylch yn y fflat ac yn y Ddinas yn hollol wahanol i be roeddwn wedi ei arfer efo adra ym Mlaenau. Mae’n deimlad rhyfedd. Yn fanno, ti’n ddim byd ond yn wyneb mewn dillad ar y stryd, dim ond yn enw, rhif, a cherdyn banc i ryw landlord. Adra, ti’n aelod o gymuned lle ti’n gwybod o le ti’n dod, a phwy wyt ti i bawb arall.

Disgynnaf i gysgu o gwmpas Amwythig, deffro o gwmpas Wrecsam neu Gaer, bellach wedi teithio’n ormodol i’r Gogledd na adra yn barod. Prestatyn, Fflint, a Rhyl i weld yn gysglyd hefyd. Braf yw Bae Colwyn er hynny – brafiach fyth yw’r llinell lawr o Landudno i Blaenau.

Does neb yn sylweddoli be ma’ nhw’n methu tan iddyn nhw ei golli. Ar ôl ‘chydig o amser, mae’r celf stryd yn troi’n ddodrefn di-nod ar gorneli Bryste, a phan dwi’n dod adra ar y trên o Landudno, dwi ’n gweld cefn gwlad calon Gogledd Cymru drwy lygaid newydd eto, yn hytrach na’r dodrefn arferol o’n i’n meddwl o’n i’n ei weld pan oeddwn yn tyfu fyny. Carpedi gwych o wyrdd ymysg mynyddoedd sy’n gadeiriau i ambell gawr, a’r bryniau wedi eu poblogi â choed hardd, wedi eu tanlinellu gan afonydd cefnog.

Pob stop ar y gorseddau ar hyd y rheiliau rŵan yn gyfle i werthfawrogi’r darlun sydd wedi ei fframio gan ffenestr y cerbyd. Dewis diddiwedd o sgriniau sinema i wylio wrth agosáu at adref. Yna tywyllwch y twnnel cyn Blaenau. Dim ond lampiau’r trên sy’n goleuo rŵan. Yn y ffenestri mae adlewyrchiad y tu mewn, a’r amser yma dw i’n edrych yn ôl ar lygaid fy hun tra bod sŵn y cledrau’n ffrwydro yn erbyn creigiau’r twnnel.

Yna’r twrw yn boddi, a fy ngolwg allan o’r twnnel unwaith eto. ‘Dw i’n ôl, yn cael fy nghyfarch a’m cofleidio gan doman o lechi, y Great Pyramids o Blaenau. Dwi adra, o’r diwadd.