Dri mis yn unig i mewn i’r gwaith adeiladu ar ddatblygiad ynni llanw Morlais mae’r cynllun £36 miliwn eisoes wedi croesawu prentisiaid newydd ar y safle.

Gyda phob un o’r wyth prentis o ogledd Cymru mae Menter Môn, y cwmni sy’n gyfrifol am Morlais yn benderfynol o gadw at ei gair o sicrhau buddion lleol drwy’r cynllun. Yn dilyn derbyn caniatâd gan Lywodraeth Cymru, mae’r gwaith ar y tir wedi dechrau mewn partneriaid gyda chwmni peirianneg sifil, Jones Bros.

Dywedodd Gerallt Llewelyn, un o gyfarwyddwr Morlais: “Mae’n newyddion gwych fod Morlais eisoes yn creu swyddi newydd ac yn rhoi’r cyfleoedd hyn i bobl ifanc. Dyma oedd ein bwriad a’n gweledigaeth ni o’r dechrau. Mae galw mawr am y math yma o sgiliau a bydd y prentisiaethau hyn yn helpu hyfforddi a datblygu talent leol, gan roi’r bobl ifanc ar y trywydd iawn i ddatblygu gyrfaoedd ym meysydd adeiladu a pheirianneg.”

Dywedodd peirianydd prosiect Jones Bros, Hari Evans, sydd ar hyn o bryd yn goruchwylio un o’r prentisiaid newydd yn ystod camau cynta’r fenter: “Mae’n wych fy mod wedi cael y cyfle a’r cyfrifoldeb ychwanegol sydd yn deillio o fod yng nghofal prentis a dangos iddynt beth i’w neud.

“Dwi wedi gweithio ar fferm wynt Coedwig Clocaenog ac amryw o prosiectau eraill yng Nghogledd Cymru ac yn edrych ymlaen i daflu fy hun i mewn i waith Morlais.”

Mae Hari yn un o chwech uwch brentis sydd wedi cwblhau cwrs peirianneg sifil pedair mlynedd, sy’n cael ei redeg ar y cyd rhwng Jones Bros a Coleg Cambria. Dechreuodd gyda Thystysgrif Cenedlaethol Uwch (HNC) cyn cyflawni Diploma Cenedlaethol Uwch (HND).

Mae Jones Bros yn un o brif gontractwyr sifil y DU. Sefydlwyd y cwmni yn y 1950au, ac erbyn hyn maen nhw’n cyflogi tua 500 o bobl. Mae eu cynllun prentisiaid wedi creu bron i 50% o’i weithlu presennol ac mae’r busnes wedi recriwtio mwy na 100 o brentisiaid yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.

Ychwanegodd Eryl Roberts, Cyfarwyddwr Cytundebau Jones Bros: “Rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i gynnig y cyfleoedd hyn i bobl ifanc lleol. Mae’n rhan o’n hethos ni fel busnes. Dim ond y dechrau yw hyn, a byddwn yn gobeithio creu cyfleoedd pellach wrth i’r gwaith ar Morlais symud yn ei flaen.”

Morlais yw’r datblygiad ynni llanw mwyaf yn y DU i gael ei redeg gan fenter gymdeithasol. Wedi ei adeiladu bydd yn cynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân oddi ar arfordir Ynys Môn. Ers i Menter Môn ennill prydles Stad y Goron i reoli’r parth 35KM2 o wely’r môr yn 2014 – un o’i amcanion allweddol oedd creu swyddi yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi ac i’r gadwyn gyflenwi.

Gyda’r gwaith adeiladu ar y tir eisoes ar y gweill, mae disgwyl i’r gwaith yn y môr yn dechrau yn 2023 ac y bydd y tyrbinau cyntaf yn eu lle ac yn cynhyrchu trydan erbyn 2024.