Bydd Menter Iaith Môn, cynllun hyrwyddo’r Gymraeg Menter Môn yn gweithio mewn cydweithrediad gyda Chyngor Sir Ynys Môn ar Iaith Môn, prosiect Adfywio Cymunedol newydd sbon.  

Bwriad y cynllun ydi cefnogi pobl a chymunedau ar draws y DU sydd â’r anghenion mwyaf, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol.  

Bydd y prosiect yn cynnig hyd at £5000 i sefydliadau cymunedol ym Môn tuag at hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith. Mae Grant Cymunedol Môn ar gael i: Fentrau Cymdeithasol, Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned, Pwyllgorau Gwaith a grwpiau cymunedol tebyg.  

Mae hwn yn gyfle i bob math o grwpiau cymunedol i fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael gan sicrhau bod ganddynt y capasiti a’r mynediad at yr hyn maen nhw ei angen i ffynnu mewn cymdeithas ddwyieithiog.  

Gyda nifer o bobl, sefydliadau a chwmniau wedi wynebu heriau yn ystod y pandemig, mae hwn yn gyfle i adennill cefnogaeth gan barhau i ddatblygu trwy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar yr un pryd.  

Dywedodd Virginia Crosbie AS: “Hoffwn ddiolch i Menter Môn am y prosiect gwych yma fydd yn gwneud cymaint i hybu’r ymdeimlad o gymuned ar yr Ynys gan hyrwyddo’r Gymraeg, sgiliau a diwylliant ar yr un pryd. Mae gennym ni nifer o grwpiau unigryw ar yr Ynys a bydd yr arian yma yn hwb mawr iddyn nhw. 

Un o’r nodau pwysicaf i ni ydi ein bod yn sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu. Rydym yn lwcus o gael hunaniaeth ddiwylliedig cryf yma ac mae’r grantiau hyn yn siŵr o helpu.”  

Ychwanegodd Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn: “Rydym yn falch o allu gwireddu cynllun grant sydd yn blaenoriaethu ein cymunedau yn Ynys Môn. Un o brif amcanion Menter Môn ydi helpu sicrhau cymunedau llewyrchus ar yr Ynys, ac mae hyrwyddo a hybu’r Gymraeg a’n treftadaeth yn un o’n cyfrifoldebau.  

Yn amlwg mae’r Gymraeg yn ran annatod o’n hunaniaeth. Felly, drwy gefnogi amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol fel pwyllgorau gwaith, papurau bro, a phrosiectau cymunedol, rydym yn hyderus y bydd hunaniaeth a gwerthoedd yr Ynys yn cael eu cefnogi’n naturiol.” 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â catrin@mentermon.com am fwy o wybodaeth neu i ddatgan diddordeb, cwblhewch y ffurflen yma: Microsoft Forms